Showing posts with label WC2C. Show all posts
Showing posts with label WC2C. Show all posts

Thursday, 23 May 2013

Penwythnos olaf o reidio - Last weekend of riding


penwythnos olaf o reidio - last weekend of riding

Wel dyma ni.. Y penwythnos olaf o reidio cyn y trip mawr! Ag yn ddigon ffodus, roedd y cefn yn teimlo 100% gwaith yn well.. diolch i'r drefn!
Well here were are! the last weekend of training before the big trip! ag fortunatley enough my back has been feeling 100% better ... thank goodness!

Es i allan nos Wener am un o'r reid byr ogwmpas Bangor, Minffordd a Pentir ayyb.. a chware teg.. er gwaethaf y seibiant.. roeddwn y coesau yn teimlo'n ffantastig:)
I went out Friday night for one of my quick rides around Bangor, Minffordd, Pentir etc etc and fair do's.... even with time off .. my legs were feeling fantastic on the ride! :)

Nes i ddim cymryd llunia yn anffodus.. ond dyma'r track :-  
Apologies that I didnt take any photos but here's my track

Ar ddydd Sul, mi aeth Carwyn a finnau am drip ar y beic.. a just dilyn ei'n trwyna... ac roedd hi'n drip da a lot hirach nag roeddwn ni'n disgwyl. Dyma lun o fy hoff fynydd .. yr Eifl..  a trac y siwrne

On Sunday, Carwyn and I went out for a trip on the bike.. just followed our noses really.. it was a nice trip and much longer than i expected.. Here's a photo of one of my favourite mountains.. Yr Eifl and the track of the trip :- 

Monday, 20 May 2013

Saith diwrnod i fynd!!!! Seven Days to go!!!


Wel.. mae'r amser bron iawn yma!!!!  Dim ond 7 diwrnod ar ôl cyn i'r siwrne ddechrau !!! Dyma lun o'r siwrne o Gonwy i Gaerdydd i chi cael gweld. Mae'r cyfraniadau i'r dudalen JustGiving yn dod i mewn hefyd.. cymerwch gyfle i edrych ar y tudalen os gewch chi gyfle ! http://www.justgiving.com/WelshCoast2CoastCymru


Well the time is almost upon us.. Only 7 days to go before the journey starts!! Heres a photo of the route from Conwy and Cardiff for you to see. Donations from the JustGiving page have been coming in.. take some time to visit the page if you have the opportunity! http://www.justgiving.com/WelshCoast2CoastCymru



Sunday, 5 May 2013

Codi arian i achos da !!!!! Raising money for a good cause !!!!


Wedi siarad gyda Carwyn, Joe a Peter, mi gytunwyd y byddem yn cychwyn codi arian ar gyfer achos da wrth reidio ar draws Cymru. Felly, rydym wedi cychwyn tudalen ar Just Giving er mwyn casglu ar gyfer y Gymdeithas Alzheimers. 

Felly os ydych yn darllen hwn, byddwn yn hynod o ddiolchgar os byddech yn dilyn y ddolen isod a rhoi'n yn hael er mwyn cefnogi achos da!




Diolch yn fawr!!! 


After speaking to Carwyn, Joe and Peter, we agreed that we'd begin raising some money for a good cause while cycling off road across Wales. As a result, we've started a new Just Giving page to begin raising funds for the Alzheimer's Society.

So, if your kind enough to be reading this, I'd be very  grateful if you'd follow the link below and kindly donate as much as you can to this worthy cause.


Many Thanks!!

Rhys

Monday, 29 April 2013

Diwrnod hir yn Llanrwst - Long day in Llanrwst

Diwrnod hir allan ag ogwmpas Llanrwst.. fel y rhedwyr oedd allan in force ogwmpas y dref y bore hwnnw! Long day in and around Llanrwst today. There were runners out in force around the town for a race like us.. they were in for a wet day! 



Roedd Carwyn wedi creu llwybr o tua 30-35 milltir ar gyfer y diwrnod, ac roedd o’n awyddus i drio allan ei deiars newydd.. Nobby Nics gan Schwalbe.. rhaid i mi ddeud.. ar ôl cael sbin ar ei feic.. ma’ nhw'n deiars 'grippy', swnllyd a cyflym.  Yn anffodus, wrth reidio ei feic, ac fel roeddwn ni'n newid y ger... mi dorrodd y chaen! Wel o’n ni'n teimlo bach yn euog i ddeud y lleiaf.. Yn ffodus.. roedd gan Carwyn powerlink sbâr, nath galluogi fo rhoi'r chaen yn ôl at ei gilydd.  PHEW!! Mi fysa rhaid i ni'n dau cerdded yn ol hebddo.
Carwyn had made a route of around 30-35 mile and he was keen to try out his new tyres... Schwalbe'r Nobby Nics and I have to admit that they're both grippy, fast and noisy. As I was looking as I was having a go on Carwyns bike and while changing gear.. the chain snapped!.. luckily, Carwyn had a spare powerlink which he used to put the chain back together. PHEW!! it would have been a long walk home without it! 

Ar ôl trin y chaen.. mi aethom dros fynydd ac i lawr tuag at Capel Curig, ar ôl dilyn yr A5 am chydig.. aethom fynydd dros fynydd arall.. Lot o ddringo yma.. ac i lawr am Ddolwyddelan.  O Ddolwyddelan, mi gytunom ni i fynd ymlaen gyda dolen hirach y siwrne ymlaen am Benmachno. After fixing the chain, we followed a path that took us over a mountain and up to Capel Curig. Following the A5 for a little while, we headed right and over another mountain.. Lots of climbing here followed by a varied decent down to Dolwyddelan. We agreed to ride the longer length of the route,so ahead we went to Penmachno.

Yn anffodus, roedd y ddolen yma yn galetach nag roeddwn ni'n disgwyl. Wrth ddringo dros y mynydd o Ddolwyddelan i Benmachno.. mi ddiflannodd y llwybr mewn cors wlyb.. felly lot o wthio'r beics a traed gwlyb!
This stage of the route was much harder than we expected. By riding up the mountain from Dolwyddelan to Penmachno, the path quickly evaporates into a wet bog... so instead of riding, there was a lot of bike-hiking!

Wedi i ni gyrraedd coedwig Penmachno, mi aethom ogwmpas y mynd er mwyn ail ymuno a'r A470 ger Dolwyddelan. Erbyn i ni gyrraedd yr A470, roeddem wedi colli gormod o amser wrth gerdded drwy'r gors.. ag achos hynny, mi benderfynom ni mynd yn ôl am y car wrth feicio am Betws y Coed ac wedyn ymlaen am Lanrwst a'r car.
Once we eventually reached Penmachno forest, we rode from the valley around the mountain so that we could reach the A470 by Dolwyddelan. By the time we reached the A470 though, we'd lost too much time with all the bike-hiking over to Penmachno, so we took to the road, and headed back to Betws and then Llanrwst to the cars.

Dyma ychydig o luniau y cymerais ar y trip. Here's a few photos I took on the ride :-




















Monday, 15 April 2013

Glaw yn Coedwig Gwydir 14-04-13



Dydd Sul arall ar y beic.. ac ar ôl yr eira o benwythnos diwethaf, roeddwn yn awyddus i osgoi unrhyw awgrymiad o eira na chwaith ardal ble fydd gofyn i gerdded y beic.

Ar ôl edrych yn ofalus ar fapiau dwi wedi lawr lwytho drwy Viewranger ar gyfer y trip, mi ddechreuais lunio trip newydd. Wrth gyfarfod a Carwyn yn y maes parcio ger y goedwig, mi ddechreuon ni ar ei'n siwrne. A cyn i mi fynd ymhellach, rhaid i mi gydnabod y ffaith bod hi'n bwrw glaw yn ddrwg.. na... roedd hi'n uffernol!
Hyd yn oed efo waterproof ymlaen o’n ni'n socian! Ond na fo. Dyna ydi natur beicio ynde.. rhaid cario ymlaen!

Er gwaetha'r glaw enbyd.. gafon ni siwrne dda.. welon ni bont sydd wedi gweld dyddiau gwell.. yn ogystal ag arwydd i un ochr gan y perchennog dwi'n cymryd.. mae'n swnio braidd yn anhapus bod gan neb diddordeb yn ei bont annwyl.










Mi aeth gweddill y reid yn eithaf da er gwaethaf y glaw, gwlyb, depressing. Rhywle yn y mynydd uwchben y Ty Hull er Capel Curig, mi dorrodd cadwyn Carwyn. Pan roeddwn arfer beicio mynydd, roedd y fath broblem yn arwain at alwad ffôn i ofyn i riant ddod i nôl fi..

Yn ffodus, roedd Carwyn y diwrnod cynt wedi buddsoddi mewn linc's sbâr i'r gadwyn.. gydag ychydig o 'elbow grease' lwyddon ni drin y gadwyn ac i ffwrdd a ni yn llawn hyder ar ôl perfformio llawdriniaeth lwyddiannus ar y beic.

Mi aeth gweddill y siwrne yn weddol rwydd.. nai ddim son gormod am y ffarmwr doedd ddim yn hapus gyda ni'n defnyddio ei giât pan ddylwn ni fod wedi defnyddio llwybr troed cyfagos.

Erbyn diwedd y siwrna.. sychodd y tywydd a gododd y cymylau i gynnig ychydig o olygfeydd braf o ddyffryn Conwy i ni gael edmygu.. Dyma ychydig o luniau a'r manylion y reid isod :-






Wet day in Gwydir Forrest 14th of April,2013




Another Sunday on the bike.. and after the Snow trauma of last weekend  we were keen to avoid any suggestion, hint or light dusting of snow as well as looking not to require any bike-hiking.

After looking carefully over the maps that I've downloaded through  Viewranger for the Coast to Coast trip I drew together a route for the day. Meeting Carwyn at the car park nearby the forest, we got started on our journey.. Before i go further.. I have to mention the fact that it was raining a lot on this ride.. and by a lot.. i mean on a biblical scale! But as the word training suggests.. we had to get on with it. 

Despite the incessant rain, we had a fairly good ride.. we passed a bridge that had seen better days.. as well as a sign located nearby from the bridge owner i assume.. who by the sounds of it.. is a little unhappy that no one's taken an interest in hir bridge...










The ride continued well.. with long climbs and lots more depressing rain. Somewhere above 'Ty Hull' near Capel Curig, Carwyns chain broke.. as you can see on the picture opposite. Back in the day.. this would've meant a phone call to a parent to come and fetch you.. But not so in these modern times. 

Luckily, Carwyn had while in the bike shop on Friday invested in some spare chain links... a wise investment indeed as they were put to good use, along with some elbow grease to put the chain back together again. Feeling supremely awesome at our trailside surgery skills and still soaked from the rain.. we soldiered on. 

The rest of the ride passed relatively un remarkably.. I wont spend too much time talking about the unhappy farmer who wasn't to pleased to see us not walking down a nearby footpath through his farm.. but we managed to talk our way out of the situation. 

By the end of the day..the rain stopped chucking it down, the clouds parted to reveal some nice views of the Conwy valley for us to admire. Here's a few pictures and details of the ride for you below :- 



Monday, 8 April 2013

Cylchdaith Eiraog Coed y Brenin Carwyn 7fed o Ebrill


Ar ôl trafod paratoi am y trip gyda Carwyn ac yn dilyn ei ymchwil.. mi awgrymodd y dylwn ni fynd am reid  mewn amgylchiadau tebyg i'r trip ei hun. Gyda hyn mewn golwg, mi luniodd Carwyn llwybr yn dechrau a gorffen yng Nghoed y Brenin.. ond yn osgoi'r llwybrau arferol wrth fynd i mewn i'r wlad a dilyn y lonydd cefn, lonydd tan 'fire roads' a'r llwybrau ceffyl a hynny am 30 milltir

Dyma ychydig o lunia yn fuan ar y trip.
LLun gan Carwyn - Picture from Carwyn

Roedd hi'n cychwyn grêt i'r diwrnod.. roeddem yn cadw amser da.. ac yn dod i arfer gyda'n teclynnau i ffeindion ffordd.. Carwyn gyda'i Garmin a finnau gyda'n Iffon.
Dwi'n gobeithio sgwennu yn y blog am declynnau GPS hwyrach yn y Blog.



Gafon ni ychydig o eira ar y llwybrau gweler fideo ohonof i'n trio beicio ar ychydig bach o eira.. dwi angen teiars gwell ar gyfer job fel honno dwi'n meddwl.





Ar ôl fwy o reidio, mi aethom ni ar draws ein lluwch eira gyntaf. Fedrwch chi weld pa mor ddyfn oedd o ar ôl claddu'r giât a llyncu'n goesau yn y lluniau yma : -


 


Ar ôl chwaneg o ginio.. mi ddaethom ni fyny at  lwybr roedd wedi ei orchuddio gydag eira. Wrth gredu byddai'r eira ddim yn rhu drwg a gan fod y llwybr yn uno a choedwig, penderfynom gario ymlaen at y goedwig ble fyddai'r eira wedi diflannu. Son am gamgymeriad.. ar ôl sloggio am bron i awr i gael i ben y llwybr trwy eira i fyny i'n pengliniau.. Roedd cymaint o eira yn y goedwig ag bob man arall!
Roedd ddigon o eira i allu ni sefyll ei'n feics heb dal arnyn nhw!

Beics yn sefyll yn yr eira 




 Erbyn hyn, doedd ganddom ni ddim teimlad yn ein traed, dim lot o egni na myned..mi aethom ni nol i drio ffeindio ffordd arall.  Aeth y gylchdaith yn eithaf da o fanno.. Mi aeth y reid tua 10 milltir yn llai na'r bwriad.. ond roedd hi'n ddiwrnod da a mi ddysgon ni lot! Da ni am  ddod yn ôl unwaith mae'r eira wedi diflanu!

Dyma manylion y reid :-

Snowy Circular above Coed y Brenin 7th of April


After discussing the Coast to Coast with Carwyn and some of his research, he suggested we should go on a ride similar to that we'll be facing on the trip itself. With this in mind, Carwyn made a gpx circular route starting from Coed y Brenin but avoiding the mormal tracks established in the centre and going up into the mountains and country allong fire roads, tracks and bridleways for 30 miles

Here's a few photos from early in the trip.
LLun gan Carwyn - Picture from Carwyn

The start of the trip went very well, we kept a good pace and we were getting used to navigating with our gps devices. Cawryn was using his Garmin and I was using my iphone with the Viewranger app. I'm planning on writing on the blog about the GPS app that I'm hoping to use for the Coast to Coast. 



We came accross some snow early on and here's a video of me having a go at riding through it. I think ill need some better tyres in this instance I think! 


After some more riding, we came across our first snow drift. You can see how deep the snow was after almost burying a nearby gate and swallowed my legs as you can see below :- 


 

After some lunch.. we set off and quickly reached a path that was covered in snow. Believing that the snow wouldn't be too bad, we set off up the snow as the path would later join a forest which we believed would be clear. What a mistake this was! After slogging for over an hour to get to the head of the path, where it crossed a stream to the forest, with the snow up to our knees for most of the way.. there was as much snow in the forest as there was outside it! As you can see from the pictures below.. the snow was thick enough to stand the bikes in! 

Snow standing bikes 




By now, we'd lost feeling in our feet, low energy and even less patience so we agreed to turn around to find another way. Once back down from the snowy path, the route went well.. loosing about 10 miles from the original path, but it turned out to be a good day where we learned a lot about navigation and reading the environment. One things for certain.. we'll be back when the snow's left!

Here's the details of the route:- 

Monday, 18 March 2013

Bwystfil Coed y Brenin Beast 17-03-13


Roedd hi'n anodd codi i ddod lawr i Coed y Brenin ar gyfer ar y bore yma.  Roeddwn wedi mwynhau dathlu llwyddiant Cymru yn ennill y chwe gwlad ar ddydd Sadwrn.

I'r reid, mi ddaeth Peter, Alice a Carwyn a benderfynon ni mynd ar trail 'Bwystfil Brenin'  llwybr Du, mwyaf y ganolfan... a rhaid i mi ddeud nath y trail ddim siomi!!!

Dyma gyswllt ar gyfer gwybodaeth ar gyfer y trail.


Yn anffodus, gafodd Carwyn bach o ddamwain yn fuan yn y dydd, dros y handlebars a glanio ar ei ysgwydd. Yn ei crash, mi blygodd ei olwyn a mech cefn.. oops! 

Roedd ei olwyn mor ddrwg, doedd o methu pasio rhwng ffyrc y beic.. Isod mae video o'r olwyn ar ôl ychydig o 'roadside assistance' gan Peter. 




Gyda'r olwyn mor ddrwg â'i ysgwydd yn brifo, mi benderfynodd Carwyn mynd adra ! Yn ddigon ffodus, doedd ei ysgwydd ddim rhu drwg ar ôl ychydig o ddyddiau..

Gyn belled ag mae gweddill trail mewn cwestiwn.... mi aeth Peter, Alice a finnau ymlaen i orffen y llwybr.. ac argian.. mae'r bwystfil yn hir, anodd... a HIR!!!

Yn anffodus, ges i ddim cyfle i dynnu lot o lunia.. ond dyma panorama neis islaw  i chi eniwe!


Well it was a little difficult getting up and down to Coed y Brenin on this Sunday. Id been enjoying the celebrating Wales's success in the on Saturday. 

 Peter, Alice and Carwyn cane for the ride and we agreed on having a go on the Beast of Brenin. its a black trail.. the largest route of the Centre.. and it certainly doesn't disappoint!

Here's a link to the information on the trail. 

Unfortunately, Carwyn had a bit of an accident early on in the day, went over the handle bars and landed on his shoulder. OUCH! In the crash, he buckled his wheel, damaged is rear mech ... oops!

His wheel was so bad it couldn't even run through his forks. Here's video on of his wheel after some road side assistance from Peter! 




His wheel was pretty bad, and with his shoulder hurting, Carwyn decided it would be better to go back home. Fortunately  after a few days, his shoulder was on the mend. 

As far as the rest of the trail was concerned, Peter, Alice and I went ahead to tackle the rest of the trail and jeez... the Beast is long, tough and LONG!!! 

Unfortunately, I didn't get a lot of opportunity to take a lot of pictures, but I managed to get a nice panorama :- 






Sunday, 17 March 2013

Cyn y Gem - Before the Game


Gyda chwaneg o amser cyn gem Cymru a Lloegr a gyda'r ffon wedi chargio.. penderfynais i fynd allan ar y beic i weld lle ai. Heb unrhyw lwybr penodol mewn golwg, nes i ddilyn fy nhrwyn... Ond roedd RHAID i mi fod yn ôl erbyn y gêm erbyn 5!!!

Yn diwedd, fyny Lon Las Ogwen es i.. fyny at ag ar hyd Dyffryn Ogwen at Capel Curig, trwy Ddyffryn Mymbryd... draw i Westy Pen y Gwyryd am ddiod o Flapjack.. yum! O’n ni'n nerfus am fynd fyny at Pen y Pass. Ond roeddwn ni'n falch iawn i gael i fyny at Pen y Pass heb stopio.. ac mewn ger canolig ! Lawr Llanberis pass..  arian roedd hin OER mynd lawr y pass.. on ni just a rhewi'n gorcyn!!!

Wrth reidio trwy Llanberis nes i dal fyny gyda Edward, ei gariad a Kath ei chwaer a'i chariad Jamie. Braf iawn cael gweld nhw gyd.. Edward yn byw ym Manceinion a ddim yn gweld o'n aml.

O Llanberis, es i Llanrug, ac adra ar hyd llwybr arferol.. roedd hi'n oer ar yn anodd tuag at y dwytha.. Doedd o ddim yn helpu mod i'n trio brysio i fod adra mewn amser i weld Cymru yn erbyn Lloegr.. Yn ffodus, gesh i adra gyda diogon o amser i ddal hen wlad fy nhadau.. Nais One!!! Oh... a da iawn Cymru am ennill. Un o gemau gorau o rygbi dwi erioed wedi gweld!!



With some time before Wales vs England match and with the phone finally charged.. i decided to get out on the bike and see where i ended up. Without a specific route in mind.. i decided to follow my nose.. Although I HAD to get back for the game at 5pm!!

I ended up heading up Lon Las Ogwen, all the way up to and allong Dyffryn Ogwen to Capel Currig, through Dyffryn Mymbyr (which feels longer on the bike) all the way to Pen y Gwyryd Hotel. Quick break there for a drink and a flapjack.. yum!
Was nervous facing it.. But I was glad to get up to Pen y Pass without stopping and in a middle gear !

Going down the Llanberis pass was very very cold.. felt i was turing into a Ice Cube!!
As I was riding through LLanberis, I bumped into and old friend Edward, his girlfriend and later his Sister Katherine and her boyfriend Jamie. Good to see them outside Pete's Eats. Edward lives in Manchester so I dont get to see him often.

From Llanberis it was a short ride over to Llanrug and one of my usual routes home. Felt like the going was both cold and hard..and it didnt help that I was trying to rush home to get back in time for the Wales v England game !! Luckily, I got back with enough time to catch the anthems.. Nice one! Ohh and well done Wales winning the 6 nations.. One of the best matches of rugby I've ever seen! 

Dyma manylion y reid  - Here's the ride info

And a few photos :- 
Ar y ffor fyny i Cwm Idwal

LLyn Ogwen

Dyffryn Mymbyr

mmmmm flapjack

Gwesty Hanesyddol - Historic Hotel.. 
oh... and i cant resist to put this in either!:- 





Thursday, 14 March 2013

Nol ar y beic ar ôl sbel i ffwrdd - Back on the bike after a while away



Dydd Sadwrn yr 2ail o Fawrth - Aeth pethau ddim fel roeddwn ni'n gobeithio heddiw. Roeddwn ni'n gobeithio dal trên i Gaer a reidio 'nol i Fangor. Ges i fy nal yn ôl ar y ffordd i Fangor gan draffig. Damnia! Yn hytrach na aros yn llaesu dwylo yn aros am y trên nesa, mi es i ar y beic i weld y teulu yn Bae Trearddur. Trip braf ar draws Ynys Môn.  Dim llunia gyda hwn ma’ ddrwg gennai..

Dydd Sul, y 3ydd o Fawrth - Neidio ar y beic yn gyflym a mynd draw i Gaernarfon, Llanrug, Tregarth ag adra.. Roedd y ffordd o Gaernarfon i Lanrug wedi cau ar gyfer gwaith.. ges i fynd triwyr gwaith.. so dyma luniau ohonof i'n reidio yn ganol y lon .... ah the open road!


Saturday the 2nd of March -  Things didn't go quite to plan.. Was hoping to catch a train to Chester and ride back to Bangor. I was delayed by traffic and missed the train.. D'oh! So instead of standing around for the next train i decided to hop on the bike and went to Trearddur Bay to see the family. Was a great ride across Anglesey. No photos I'm afraid..

Sunday 3rd of March - Jumped on the bike and went over to Caernarfon, LLanrug and Tregarth then home. The road from Caernarfon to Llanrug was closed for road works and I got to go through anyway.. so here's a few pictures of me riding in the middle of the road... ahh the open road!!


Lon ar ei ora = gwag
Road at its best = empty 

Dyddiad wedi ei ddewis!!! Date has been set!!!




Falch o fedru deud bod dyddiad ar gyfer trip 'O'r top i'r Gwaelod' wedi ei ddewis!! Byddem yn dechrau'r trip ar Ddydd Llun y 27ain o Fai. Peter a finnau wedi edrych am lefydd i aros ac wedi bwcio llety... nai ddiweddaru'r Blog gyda manylion bellach am y ffordd byddem yn dilyn, a lle da ni am aros yn ystod yr wythnos...  

Wedi derbyn cadarnhad hefyd can Carwyn, Peter a Joe bod y 3 am ddod ar y trip... dechrau edrych ymlaen rŵan!!!! Mwy o wybodaeth i ddilyn!


I'm pleased to be able to announce that the date for the Welsh Coast to Coast trip has been set ! We'll be setting off on Monday the 27th of May. Peter and I have started looking at places to stay and managed to make bookings at the relevant locations.
Ill update the blog with more information including which way we'll be going and where were staying..

While arranging accommodation, Carwyn, Peter and Joe fully confirmed that their up to the trip... Starting to look forwards to the trip now!!!! More information to follow!! 

Sunday, 13 January 2013

Bwystfil Penllyn Beast


Carwyn and I went for a ride around Penllyn yesterday. Carwyn had prepared a route on his new GPS unit. It was a longer trip than he usually does which only made it about 54 miles!!  As it was so long.. and as Carwyn managed to find all of the hills and mountains in the area for us to ride.. I'm going to christen this route as the 'Beast of Penllyn'.

This is my longest ride to date..and its good training for the Coast to Coast challenge. Few more of these and  I'll be in good shape for the trip.. i was knackered by the end of the day! Having said that.. the trip was great with some fantastic views. I've put included some photos below.


Aeth fi a Carwyn am reid o gwmpas Penllyn ddoe. Roedd Carwyn wedi paratoi siwrna ar ei declyn GPS newydd.. fersiwn hirach na'r trip arferol mae'n dilyn dim ond 54 milltir !!! Gan ei fod mor hir.. a gan fod Carwyn wedi llwyddo i ffeindio bob  allt a mynydd yn yr ardal dwi am enwi'r trip yma 'Bwystfil Pen Llyn'

Hwn ydi'r reid hiraf dwi di fod ar feic erioed.. ond mae'n trainning da ar gyfer yr her o’n blaenau efo'r Coast to Coast. Chydig mwy o rain a fyddai mewn siâp da  i'r siwrna.. o’n ni'n nacyrd erbyn i mi gael adra fyd. Roedd y llwybr yn grêt a'r golygfeydd yn fantastic.. Dwi di gosod chydig o lunia isod.

Fi gyda Nefyn yn y Cefndir - Me with Nefyn in the background
Carwyn sydd hefyd isio mynd o'r Top i'r Gwaelod efo nefyn yn y cefn
Carwyn a C2C Contender also with Nefyn in the back




Ynys Enlli - Bardsey Island



Flapjack for Carwyn's Flapjack
Frwyth Sych i gadw fi fynd
 Some Dried Fruit to keep me going



Traeth Aberdaron - Aberdaron Beach