Showing posts with label North Wales. Show all posts
Showing posts with label North Wales. Show all posts

Thursday, 23 May 2013

Penwythnos olaf o reidio - Last weekend of riding


penwythnos olaf o reidio - last weekend of riding

Wel dyma ni.. Y penwythnos olaf o reidio cyn y trip mawr! Ag yn ddigon ffodus, roedd y cefn yn teimlo 100% gwaith yn well.. diolch i'r drefn!
Well here were are! the last weekend of training before the big trip! ag fortunatley enough my back has been feeling 100% better ... thank goodness!

Es i allan nos Wener am un o'r reid byr ogwmpas Bangor, Minffordd a Pentir ayyb.. a chware teg.. er gwaethaf y seibiant.. roeddwn y coesau yn teimlo'n ffantastig:)
I went out Friday night for one of my quick rides around Bangor, Minffordd, Pentir etc etc and fair do's.... even with time off .. my legs were feeling fantastic on the ride! :)

Nes i ddim cymryd llunia yn anffodus.. ond dyma'r track :-  
Apologies that I didnt take any photos but here's my track

Ar ddydd Sul, mi aeth Carwyn a finnau am drip ar y beic.. a just dilyn ei'n trwyna... ac roedd hi'n drip da a lot hirach nag roeddwn ni'n disgwyl. Dyma lun o fy hoff fynydd .. yr Eifl..  a trac y siwrne

On Sunday, Carwyn and I went out for a trip on the bike.. just followed our noses really.. it was a nice trip and much longer than i expected.. Here's a photo of one of my favourite mountains.. Yr Eifl and the track of the trip :- 

Monday, 29 April 2013

Diwrnod hir yn Llanrwst - Long day in Llanrwst

Diwrnod hir allan ag ogwmpas Llanrwst.. fel y rhedwyr oedd allan in force ogwmpas y dref y bore hwnnw! Long day in and around Llanrwst today. There were runners out in force around the town for a race like us.. they were in for a wet day! 



Roedd Carwyn wedi creu llwybr o tua 30-35 milltir ar gyfer y diwrnod, ac roedd o’n awyddus i drio allan ei deiars newydd.. Nobby Nics gan Schwalbe.. rhaid i mi ddeud.. ar ôl cael sbin ar ei feic.. ma’ nhw'n deiars 'grippy', swnllyd a cyflym.  Yn anffodus, wrth reidio ei feic, ac fel roeddwn ni'n newid y ger... mi dorrodd y chaen! Wel o’n ni'n teimlo bach yn euog i ddeud y lleiaf.. Yn ffodus.. roedd gan Carwyn powerlink sbâr, nath galluogi fo rhoi'r chaen yn ôl at ei gilydd.  PHEW!! Mi fysa rhaid i ni'n dau cerdded yn ol hebddo.
Carwyn had made a route of around 30-35 mile and he was keen to try out his new tyres... Schwalbe'r Nobby Nics and I have to admit that they're both grippy, fast and noisy. As I was looking as I was having a go on Carwyns bike and while changing gear.. the chain snapped!.. luckily, Carwyn had a spare powerlink which he used to put the chain back together. PHEW!! it would have been a long walk home without it! 

Ar ôl trin y chaen.. mi aethom dros fynydd ac i lawr tuag at Capel Curig, ar ôl dilyn yr A5 am chydig.. aethom fynydd dros fynydd arall.. Lot o ddringo yma.. ac i lawr am Ddolwyddelan.  O Ddolwyddelan, mi gytunom ni i fynd ymlaen gyda dolen hirach y siwrne ymlaen am Benmachno. After fixing the chain, we followed a path that took us over a mountain and up to Capel Curig. Following the A5 for a little while, we headed right and over another mountain.. Lots of climbing here followed by a varied decent down to Dolwyddelan. We agreed to ride the longer length of the route,so ahead we went to Penmachno.

Yn anffodus, roedd y ddolen yma yn galetach nag roeddwn ni'n disgwyl. Wrth ddringo dros y mynydd o Ddolwyddelan i Benmachno.. mi ddiflannodd y llwybr mewn cors wlyb.. felly lot o wthio'r beics a traed gwlyb!
This stage of the route was much harder than we expected. By riding up the mountain from Dolwyddelan to Penmachno, the path quickly evaporates into a wet bog... so instead of riding, there was a lot of bike-hiking!

Wedi i ni gyrraedd coedwig Penmachno, mi aethom ogwmpas y mynd er mwyn ail ymuno a'r A470 ger Dolwyddelan. Erbyn i ni gyrraedd yr A470, roeddem wedi colli gormod o amser wrth gerdded drwy'r gors.. ag achos hynny, mi benderfynom ni mynd yn ôl am y car wrth feicio am Betws y Coed ac wedyn ymlaen am Lanrwst a'r car.
Once we eventually reached Penmachno forest, we rode from the valley around the mountain so that we could reach the A470 by Dolwyddelan. By the time we reached the A470 though, we'd lost too much time with all the bike-hiking over to Penmachno, so we took to the road, and headed back to Betws and then Llanrwst to the cars.

Dyma ychydig o luniau y cymerais ar y trip. Here's a few photos I took on the ride :-




















Monday, 15 April 2013

Glaw yn Coedwig Gwydir 14-04-13



Dydd Sul arall ar y beic.. ac ar ôl yr eira o benwythnos diwethaf, roeddwn yn awyddus i osgoi unrhyw awgrymiad o eira na chwaith ardal ble fydd gofyn i gerdded y beic.

Ar ôl edrych yn ofalus ar fapiau dwi wedi lawr lwytho drwy Viewranger ar gyfer y trip, mi ddechreuais lunio trip newydd. Wrth gyfarfod a Carwyn yn y maes parcio ger y goedwig, mi ddechreuon ni ar ei'n siwrne. A cyn i mi fynd ymhellach, rhaid i mi gydnabod y ffaith bod hi'n bwrw glaw yn ddrwg.. na... roedd hi'n uffernol!
Hyd yn oed efo waterproof ymlaen o’n ni'n socian! Ond na fo. Dyna ydi natur beicio ynde.. rhaid cario ymlaen!

Er gwaetha'r glaw enbyd.. gafon ni siwrne dda.. welon ni bont sydd wedi gweld dyddiau gwell.. yn ogystal ag arwydd i un ochr gan y perchennog dwi'n cymryd.. mae'n swnio braidd yn anhapus bod gan neb diddordeb yn ei bont annwyl.










Mi aeth gweddill y reid yn eithaf da er gwaethaf y glaw, gwlyb, depressing. Rhywle yn y mynydd uwchben y Ty Hull er Capel Curig, mi dorrodd cadwyn Carwyn. Pan roeddwn arfer beicio mynydd, roedd y fath broblem yn arwain at alwad ffôn i ofyn i riant ddod i nôl fi..

Yn ffodus, roedd Carwyn y diwrnod cynt wedi buddsoddi mewn linc's sbâr i'r gadwyn.. gydag ychydig o 'elbow grease' lwyddon ni drin y gadwyn ac i ffwrdd a ni yn llawn hyder ar ôl perfformio llawdriniaeth lwyddiannus ar y beic.

Mi aeth gweddill y siwrne yn weddol rwydd.. nai ddim son gormod am y ffarmwr doedd ddim yn hapus gyda ni'n defnyddio ei giât pan ddylwn ni fod wedi defnyddio llwybr troed cyfagos.

Erbyn diwedd y siwrna.. sychodd y tywydd a gododd y cymylau i gynnig ychydig o olygfeydd braf o ddyffryn Conwy i ni gael edmygu.. Dyma ychydig o luniau a'r manylion y reid isod :-