Monday 15 April 2013

Glaw yn Coedwig Gwydir 14-04-13



Dydd Sul arall ar y beic.. ac ar ôl yr eira o benwythnos diwethaf, roeddwn yn awyddus i osgoi unrhyw awgrymiad o eira na chwaith ardal ble fydd gofyn i gerdded y beic.

Ar ôl edrych yn ofalus ar fapiau dwi wedi lawr lwytho drwy Viewranger ar gyfer y trip, mi ddechreuais lunio trip newydd. Wrth gyfarfod a Carwyn yn y maes parcio ger y goedwig, mi ddechreuon ni ar ei'n siwrne. A cyn i mi fynd ymhellach, rhaid i mi gydnabod y ffaith bod hi'n bwrw glaw yn ddrwg.. na... roedd hi'n uffernol!
Hyd yn oed efo waterproof ymlaen o’n ni'n socian! Ond na fo. Dyna ydi natur beicio ynde.. rhaid cario ymlaen!

Er gwaetha'r glaw enbyd.. gafon ni siwrne dda.. welon ni bont sydd wedi gweld dyddiau gwell.. yn ogystal ag arwydd i un ochr gan y perchennog dwi'n cymryd.. mae'n swnio braidd yn anhapus bod gan neb diddordeb yn ei bont annwyl.










Mi aeth gweddill y reid yn eithaf da er gwaethaf y glaw, gwlyb, depressing. Rhywle yn y mynydd uwchben y Ty Hull er Capel Curig, mi dorrodd cadwyn Carwyn. Pan roeddwn arfer beicio mynydd, roedd y fath broblem yn arwain at alwad ffôn i ofyn i riant ddod i nôl fi..

Yn ffodus, roedd Carwyn y diwrnod cynt wedi buddsoddi mewn linc's sbâr i'r gadwyn.. gydag ychydig o 'elbow grease' lwyddon ni drin y gadwyn ac i ffwrdd a ni yn llawn hyder ar ôl perfformio llawdriniaeth lwyddiannus ar y beic.

Mi aeth gweddill y siwrne yn weddol rwydd.. nai ddim son gormod am y ffarmwr doedd ddim yn hapus gyda ni'n defnyddio ei giât pan ddylwn ni fod wedi defnyddio llwybr troed cyfagos.

Erbyn diwedd y siwrna.. sychodd y tywydd a gododd y cymylau i gynnig ychydig o olygfeydd braf o ddyffryn Conwy i ni gael edmygu.. Dyma ychydig o luniau a'r manylion y reid isod :-






No comments:

Post a Comment

Gadewch Sylwadau - Leave Comments