Monday 8 April 2013

Cylchdaith Eiraog Coed y Brenin Carwyn 7fed o Ebrill


Ar ôl trafod paratoi am y trip gyda Carwyn ac yn dilyn ei ymchwil.. mi awgrymodd y dylwn ni fynd am reid  mewn amgylchiadau tebyg i'r trip ei hun. Gyda hyn mewn golwg, mi luniodd Carwyn llwybr yn dechrau a gorffen yng Nghoed y Brenin.. ond yn osgoi'r llwybrau arferol wrth fynd i mewn i'r wlad a dilyn y lonydd cefn, lonydd tan 'fire roads' a'r llwybrau ceffyl a hynny am 30 milltir

Dyma ychydig o lunia yn fuan ar y trip.
LLun gan Carwyn - Picture from Carwyn

Roedd hi'n cychwyn grêt i'r diwrnod.. roeddem yn cadw amser da.. ac yn dod i arfer gyda'n teclynnau i ffeindion ffordd.. Carwyn gyda'i Garmin a finnau gyda'n Iffon.
Dwi'n gobeithio sgwennu yn y blog am declynnau GPS hwyrach yn y Blog.



Gafon ni ychydig o eira ar y llwybrau gweler fideo ohonof i'n trio beicio ar ychydig bach o eira.. dwi angen teiars gwell ar gyfer job fel honno dwi'n meddwl.





Ar ôl fwy o reidio, mi aethom ni ar draws ein lluwch eira gyntaf. Fedrwch chi weld pa mor ddyfn oedd o ar ôl claddu'r giât a llyncu'n goesau yn y lluniau yma : -


 


Ar ôl chwaneg o ginio.. mi ddaethom ni fyny at  lwybr roedd wedi ei orchuddio gydag eira. Wrth gredu byddai'r eira ddim yn rhu drwg a gan fod y llwybr yn uno a choedwig, penderfynom gario ymlaen at y goedwig ble fyddai'r eira wedi diflannu. Son am gamgymeriad.. ar ôl sloggio am bron i awr i gael i ben y llwybr trwy eira i fyny i'n pengliniau.. Roedd cymaint o eira yn y goedwig ag bob man arall!
Roedd ddigon o eira i allu ni sefyll ei'n feics heb dal arnyn nhw!

Beics yn sefyll yn yr eira 




 Erbyn hyn, doedd ganddom ni ddim teimlad yn ein traed, dim lot o egni na myned..mi aethom ni nol i drio ffeindio ffordd arall.  Aeth y gylchdaith yn eithaf da o fanno.. Mi aeth y reid tua 10 milltir yn llai na'r bwriad.. ond roedd hi'n ddiwrnod da a mi ddysgon ni lot! Da ni am  ddod yn ôl unwaith mae'r eira wedi diflanu!

Dyma manylion y reid :-

No comments:

Post a Comment

Gadewch Sylwadau - Leave Comments