Monday 18 March 2013

Bwystfil Coed y Brenin Beast 17-03-13


Roedd hi'n anodd codi i ddod lawr i Coed y Brenin ar gyfer ar y bore yma.  Roeddwn wedi mwynhau dathlu llwyddiant Cymru yn ennill y chwe gwlad ar ddydd Sadwrn.

I'r reid, mi ddaeth Peter, Alice a Carwyn a benderfynon ni mynd ar trail 'Bwystfil Brenin'  llwybr Du, mwyaf y ganolfan... a rhaid i mi ddeud nath y trail ddim siomi!!!

Dyma gyswllt ar gyfer gwybodaeth ar gyfer y trail.


Yn anffodus, gafodd Carwyn bach o ddamwain yn fuan yn y dydd, dros y handlebars a glanio ar ei ysgwydd. Yn ei crash, mi blygodd ei olwyn a mech cefn.. oops! 

Roedd ei olwyn mor ddrwg, doedd o methu pasio rhwng ffyrc y beic.. Isod mae video o'r olwyn ar ôl ychydig o 'roadside assistance' gan Peter. 




Gyda'r olwyn mor ddrwg â'i ysgwydd yn brifo, mi benderfynodd Carwyn mynd adra ! Yn ddigon ffodus, doedd ei ysgwydd ddim rhu drwg ar ôl ychydig o ddyddiau..

Gyn belled ag mae gweddill trail mewn cwestiwn.... mi aeth Peter, Alice a finnau ymlaen i orffen y llwybr.. ac argian.. mae'r bwystfil yn hir, anodd... a HIR!!!

Yn anffodus, ges i ddim cyfle i dynnu lot o lunia.. ond dyma panorama neis islaw  i chi eniwe!


Well it was a little difficult getting up and down to Coed y Brenin on this Sunday. Id been enjoying the celebrating Wales's success in the on Saturday. 

 Peter, Alice and Carwyn cane for the ride and we agreed on having a go on the Beast of Brenin. its a black trail.. the largest route of the Centre.. and it certainly doesn't disappoint!

Here's a link to the information on the trail. 

Unfortunately, Carwyn had a bit of an accident early on in the day, went over the handle bars and landed on his shoulder. OUCH! In the crash, he buckled his wheel, damaged is rear mech ... oops!

His wheel was so bad it couldn't even run through his forks. Here's video on of his wheel after some road side assistance from Peter! 




His wheel was pretty bad, and with his shoulder hurting, Carwyn decided it would be better to go back home. Fortunately  after a few days, his shoulder was on the mend. 

As far as the rest of the trail was concerned, Peter, Alice and I went ahead to tackle the rest of the trail and jeez... the Beast is long, tough and LONG!!! 

Unfortunately, I didn't get a lot of opportunity to take a lot of pictures, but I managed to get a nice panorama :- 






No comments:

Post a Comment

Gadewch Sylwadau - Leave Comments