Mi aeth Carwyn a finnau ar y reid gyntaf y flwyddyn heddiw, er mwyn dechra paratoi i 'O'r Top i'r Gwaelod'
Yn benderfynol o ddilyn llwybr naturiol .. h.y. ddim mewn canolfan beicio, mi aethom ni ar y trên o Fangor i Gyffordd Llandudno a beicio i Gonwy er mwyn dilyn Llwybr y Gogledd yr holl ffordd i Abergwyngergyn. Dyma linc i fanylion am y llwybr.
North Wales Path
Mi aeth pethe’n dda A drwg ar y reid.. y pethau da oedd bod yr iphone5 yn eithaf da fel GPS tracker wrth ddefnyddio app sy'n dangos OSmaps. Roedd y top gwlân Merino hefyd yn dda gan ei fod wedi cadw fi'n gynnas o’n ddim yn boeth. Y pethau drwg oedd bod hydration pack fi yn dechrau gollwng dros fy nghefn a fy nhin, ma angen sgidia beicio call arnai a dwi angen gwella ffitrwydd... ond dydi hynna ddim yn sioc fawr!
Dyma'r llwybr fel cafodd ei recordio gan
Endonmondo a chydig o luniau i ddilyn :-
Carwyn and I went on the first ride of the year today to begin training for the Coast to Coast. Determined to have a go on more natural paths i.e. not on trail centres, we caught the train to Bangor to Llandudno Junction, rode to Conwy to catch the North Wales Path all the way back to Abergwyngregyn. Here's a link to information on the path.
North Wales Path
Parts of the ride went well.. others didn't Of the things that went well, the iphone 5 is a pretty good GPS tracker when using the appropriate OSMapping apps. The new Merino wool top was warm but not too hot. Things that didn't go to well included my hydration pack leaking all over my back and bum ! I also need some sensible shoes to go biking on and improve my fitness.. but then that's not a surprise!
Here's a track of the ride recorded by
Endonmondo and some photos to follow :-
|
Edyrch yn ol am yr Orme View back towards the Orme |
|
Carwyn yn edych yn hapus - Carwyn looking happy |
|
Mwd mwd mwd - Mud Mud Mud |
|
Ceffyl gyda Ynys Seiriol yn y cefndir - Horse with Puffin Island in the back |
|
Golygfa lawr am Llanfairfechan - View towards Llanfairfechan |
|
Carwyn wedi ffeindio wbath neis - Carwyn just found something nice |
|
Panorama o fi - panorama with me in it |
No comments:
Post a Comment
Gadewch Sylwadau - Leave Comments